Dewiswch ym mhle yr hoffech arsefydlu'r cychwynnydd. Os taw dim ond @RHL@ sydd i'w ddefnyddio ar eich system, dewiswch y Brif Gofnod Cychwyn (MBR). Ar gyfer systemau y bydd Win95/98 a @RHL@ yn byw ar ddisg galed unigol, dylech hefyd arsefydlu'r cychwynnydd i'r MBR.
Os oes gennych Windows NT (ac yr ydych am arsefydlu cychwynnydd) dylech ddewis ei arsefydlu ar sector cyntaf y rhaniad cychwyn.
Cliciwch Newid Trefn Gyriannau i aildrefnu trefn y gyriannau. Gall newid trefn y gyriannau fod yn ddefnyddiol os oes gennych sawl addasydd SCIS, neu addasyddion SCSI ac IDE ill dau ac yr ydych am gychwyn o'r ddyfais SCSI.
Dewiswch Gorfodi LBA32 os ydych wedi cael problemau â'r system gan ddefnyddio cynhaliaeth LBA32 yn ystod arsefydliadau blaenorol, er engraiffd, gall fod angen i'r system groesi'r terfyn 1024 silindr ar gyfer y rhaniad /boot
. Dim ond os oes gennych system sy'n cynnal yr estyniad LBA32 ar gyfer cychwyn systemau gweithredu uwchlaw'r terfyn 1024 silindr, a'ch bod am roi'ch rhaniad /boot
uwchlaw silindr 1024, y dylech ddewis y dewisiad yma. Os ydych yn ansicr, peidiwch â dewis y dewisiad Gorfodi LBA32.
Os ydych am ychwanegu dewisiadau rhagosodedig i'r gorchymyn cychwyn, rhowch nhw yn y maes Paramedrau cyffredinol cnewyllyn Fe basir unrhyw ddewisiadau y rhowch i'r cnewyllyn Linux bob tro y cychwynna.