Dewiswch ble yr hoffech arsefydlu @RHL@.
Os nad ydych yn gwybod sut i rannu'ch system, neu os oes angen cymorth arnoch i ddefnyddio'r erfynnau rhannu â llaw, cyfeiriwch at ddogfennaeth y cynnyrch.
Os ddefnyddioch rannu awtomatig, gallwch naill ai derbyn y gosodiadau rhannu cyfredol (cliciwch Nesaf), neu addasu'r gosodiad drwy'r erfyn rhannu â llaw.
Os ydych yn rhannu'ch system â llaw, fe welwch eich disg galed/disgiau caled cyfredol a'u rhaniadau isod. Defnyddiwch yr erfyn rhannu i ychwanegu, olygu, neu ddileu rhaniadau ar gyfer eich system.
Noder, rhaid i chi greu rhaniad gwraidd (/) cyn y gallwch fynd ymlaen â'r arsefydliad yma. Os na grëwch raniad gwraidd, ni fydd y raglen arsefydlu'n gwybod ble i arsefydlu @RHL@.
Mae'r cynrychioliad graffigol o'ch disg galed/disgiau caled yn eich galluogi i weld faint o le sydd wedi ei neilltuo ar gyfer yr amryw raniadau a grëwyd.
Islaw'r cynrychioliad graffigol, fe welwch hierarchaeth system ffeil yn dangos eich rhaniadau cyfredol. Gan ddefnyddio'ch llygoden, cliciwch unwaith i amlygu rhaniad neu gliciwch yn ddwbl ar y rhaniad i'w olygu.
Mae'r res ganol o fotymau'n rheoli gweithredoedd yr erfyn rhannu. Gallwch ychwanegu, olygu, a dileu rhaniadau yma. Yn ogystal, mae botymau gallwch ddefnyddio i dderbyn y newidiadau rydych wedi eu gwneud, neu i ailosod a gadael yr erfyn rhannu.
Newydd:
Defnyddiwch y botwm yma i greu rhaniad newydd. Ymddengys blwch ymgom yn cynnwys meysydd mae rhaid eu llenwi (megis man gosod, math system ffeil, gyriant y dylai'r rhaniad fodoli arno, maint, ac yn y blaen).
Golygu
Defnyddiwch y botwm yma i newid man gosod rhaniad dewisiedig cyfredol. Gallwch hefyd greu rhaniad â llaw drwy olygu lle rhydd (os oes ar gael). Mae golygu lle rhydd yn yr ystyr yma'n debyg i ddefnyddio parted
fel y gallwch ddewis ym mhle mae'r rhaniad yn dechrau a diweddu o fewn y lle rhydd yna.
Dileu
Defnyddiwch y botwm yma i ddileu rhaniad.
Ailosod
Defnyddiwch y botwm yma i ddiddymu'ch newidiadau.
RAID:
Defnyddiwch y botwm RAID os oes gennych brofiad o ddefnyddio RAID YN UNIG. I wneud dyfais RAID, rhaid i chi greu rhaniadau RAID meddalweddol yn gyntaf. Unwaith eich bod wedi creu dau neu fwy o raniadau RAID meddalweddol, dewiswch RAID i gyfuno'r rhaniadau RAID meddalweddol yn ddyfais RAID.
LVM:
Defnyddiwch y botwm LVM os oes gennych brofiad o ddefnyddio LVM YN UNIG. I greu cyfrol resymegol LVM, rhaid i chi greu rhaniadau o fath cyfrol corfforol (LVM) yn gyntaf. Unwaith eich bod wedi creu un neu fwy o raniadau cyfrol corfforol (LVM), dewiswch LVM i greu cyfrol resymegol LVM.
Cuddio aelodau dyfais RAID/Grŵp Cyfrolau LVM: Dewiswch y dewisiad yma os nad ydych am weld unrhyw aelodau dyfeisiau RAID neu Grŵpiau Cyfrolau LVM sydd wedi'u creu.