Anghenion y System:
Dim ond bysellau (cyfuniad bysellau) nad ydynt yn cael eu defnyddio gan y system weithredu mae modd eu defnyddio yn OpenOffice.org. Os nad yw cyfuniad bysellau'n gweithio fel y disgrifir yn Cymorth OpenOffice.org, gwiriwch fod y llwybr byr yn cael ei ddefnyddio eisoes gan y system. I gywiro'r gwrthdaro, mae modd newid y bysellau neilltuwyd gan eich system weithredu. Fel arall, mae modd newid bron unrhyw un o fysellau neilltuwyd gan OpenOffice.org. Am ragor o wybodaeth ar y pwnc, ewch i Cymorth OpenOffice.org neu ddogfennaeth Cymorth eich system weithredu.
Yn y gosodiad rhagosodedig, mae cloi ffeiliau wedi ei droi ymlaen yn OpenOffice.org. I'w atal, rhaid gosod yr amrywiolion amgylcheddol priodol SAL_ENABLE_FILE_LOCKING=0 ac allforio SAL_ENABLE_FILE_LOCKING. Mae'r confodion hyn wedi eu galluogi yn ffeil sgript soffice.
Rhybudd: Mae'r nodwedd cloi ffeiliau yn medru achosi anawsterau gyda Solaris 2.5.1 a 2.7 mewn cysylltiad รข Linux NFS 2.0. Os yw eich system yn meddu'r paramedrau hyn, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn peidio defnyddio cloi ffeiliau. Fel arall, bydd OpenOffice.org yn atal wrth i chi geisio agor ffeil o gyfeiriadur gosodedig NFS ar gyfrifiadur Linux.
Cymrwch ychydig o amser i lanw'r broses Cofrestru Cynnyrch byr wrth i chi osod y feddalwedd. Er bod cofrestru'n ddewisol, rydym yn eich annog i gofrestru gan fod y wybodaeth yn galluogi'r Gymuned i greu meddalwedd gwell ac ateb anghenion y defnyddiwr yn uniongyrchol. Drwy ein Polisi Preifatrwydd, mae Cymuned OpenOffice.org yn cymryd pob gofal i ddiogelu eich data preifat Os aethoch heibio i'r cofrestru wrth osod y feddalwedd, mae modd dychwelyd a chofrestru ar unrhyw adeg.
Mae yna hefyd Arolwg Defnyddiwr ar-lein hoffwn eich annog i'w lanw. Mae canlyniadau'r Arolwg Defnyddiwr yn cynorthwyo OpenOffice.org i symud ynghynt wrth osod safonau newydd ar gyfer creu'r genhedlaeth nesaf o raglenni swyddfa. Drwy ein Polisi Preifatrwydd, mae OpenOffice.org yn cymryd pob gofal i ddiogelu eich data preifat.
Am gymorth gyda phecyn OpenOffice.org 2.0, darllenwch yr archif i ganfod cwestiynau wedi eu hateb ar restr e-bostio 'users@openoffice.org' ynhttp://www.openoffice.org/mail_list.html. Neu mae modd anfon eich cwestiynau at users@openoffice.org. Cofiwch danysgrifio i'r rhestr i gael ymateb drwy'r e-bost.
Gwiriwch yr adran FAQ ynhttp://user-faq.openoffice.org/.
Mae Safle Gwe OpenOffice.org yn cynnal IssueZilla, sef modd i gofnodi, tracio a datrys gwallau a materion o bryder. Rydym yn annog pob defnyddiwr i deimlo croeso i adrodd ar wallau all godi ym mhob platfform. Mae adrodd effeithiol ar wallau'n un o gyfraniadau pwysicaf y gall y Gymuned Defnyddwyr ei wneud i ddatblygiad a gwellhad y rhaglenni.
Byddai Cymuned OpenOffice.org yn elwa'n fawr o'ch ymwneud gweithredol yn natblygiad y project cod agored pwysig hwn.
Fel defnyddiwr, rydych eisoes yn rhan werthfawr o ddatblygiad y pecyn a hoffwn eich annog yn gryf i gymryd mwy o ran gyda golwg ar fod yn gyfranogwr tymor hir i'r gymuned. Ymunwch a darllenwch dudalennau defnyddwyr yn:http://www.openoffice.org
Gobeithio y byddwch yn mwynhau gweithio gyda OpenOffice.org 3.0 ac y gwnewch ymuno gyda ni ar-lein.
Cymuned OpenOffice.org
Darnau Hawlfraint 1998, 1999 James Clark. Darnau Hawlfraint 1996, 1998 Netscape Communications Corporation.